Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau:

 

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi Adroddiad y Pwyllgor ac yn cytuno â’i gasgliad. Mae diffiniad rhannol o’r term “head teacher” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 i’r perwyl bod “head teacher” yn cynnwys “acting head teacher”. Nid yw’r term “acting head teacher” ei hun wedi ei ddiffinio yn Neddf 1996. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai cyfeirio’r darllenydd at y diffiniad rhannol yn adran 579(1) o Ddeddf 1996 wedi bod yn ddefnyddiol i’r darllenydd. Byddwn yn diwygio Rheoliadau 2022 i ymdrin â’r pwynt hwn pan fydd y cyfle nesaf yn codi.